Mae lles plant wedi’u maethu yng Nghymru i’w wella, diolch i brosiect arloesol

Media release

Cyhoeddodd Y Rhwydwaith Maethu heddiw lansiad y rhaglen Maethu Lles newydd mewn partneriaeth â Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cwm Taf.

Bydd y rhaglen arloesol newydd hon yn helpu gofalwyr maeth a phawb sy’n gweithio â phlant a phobl ifanc wedi’u maethu i ddeall ac i ymateb yn gyfannol i blant, gan gydnabod bod perthynas dda yn ganolog i hyrwyddo lles cymdeithasol, corfforol ac emosiynol.

Y nod yw cydnabod gofalwyr maeth fel rhan allweddol o’r tîm addysg, yn ogystal â gwella ymgysylltiad, gwybodaeth a hyder ymysg gofalwyr, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg. Bydd y rhaglen yn annog dyhead ac uchelgais ymysg pobl ifanc wedi’u maethu, yn ogystal â gwerthoedd cyffredin ymysg pawb sy’n gysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal.

Bydd Y Rhwydwaith Maethu yn gweithio â Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cwm Taf, sy’n tynnu ynghyd awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful gyda bwrdd lleol Cwm Taf, i dreialu’r rhaglen am ddwy flynedd yn y rhanbarth. Mae elfennau o’r rhaglen yn cynnwys cymorth gan wasanaethau, dosbarthiadau meistr â themâu rhanbarthol a recriwtio hyrwyddwyr Maethu Lles.

Cyllidir Maethu Lles gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cyfuno egwyddorion addysgeg gymdeithasol a gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar addysg, gan fanteisio ar addysg oddi wrth raglenni llwyddiannus Y Rhwydwaith Maethu, sef ‘Pen, Calon, Dwylo’ a Maethu Cyflawniad Llundain.

Dywedodd Colin Turner, cyfarwyddwr Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru: ‘Mae gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn ganolog i bopeth y mae’r Rhwydwaith Maethu yn ei wneud. Gwyddom fod canlyniadau’n gwella pan fo gofalwyr maeth a gweithwyr proffesiynol eraill sydd ym mywydau plant sy’n derbyn gofal yn gweithio’n dda gyda’i gilydd. Maethu Lles yw’r ddiweddaraf mewn nifer o raglenni pwysig rydym yn eu cynnal yng Nghymru, ac fe edrychwn ymlaen yn fawr at weithio â Chwm Taf i fanteisio ar yr addysg oddi wrth raglenni eraill y mae’r Rhwydwaith Maethu wedi’u cynnal a cheisio’u cymhwyso yn y rhan honno o Dde Cymru.’

Dywedodd Gareth Chapman, prif weithredwr Cyngor Merthyr Tudful: ‘Rydym wrth ein bodd o gymryd rhan yn y cynllun peilot cyffrous hwn. Yng Nghwm Taf, rydym yn angerddol dros y potensial y gellir ei gyflawni i bobl ifanc pan gaiff gofalwyr maeth eu cyfarparu â’r wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth gywir.

‘Mae bod yn rhan o’r cynllun peilot hwn yn cynrychioli cyfle i ofalwyr maeth, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i lunio ac i ddylanwadu ar ddatblygiadau newydd sydd yn atgyfnerthu sefydlogrwydd a llwyddiant i bobl ifanc sy’n derbyn gofal yma yng Nghwm Taf a ledled Cymru.’

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: ‘Fel rhan o waith Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Wella Canlyniadau ar gyfer Plant, rwy’n falch ein bod yn gweithio â’r Rhwydwaith Maethu i archwilio effaith ymagwedd gyfannol tuag at ofalu am blant, sy’n cyfuno addysg a gofal.

‘Dyma brosiect cyffrous ac arloesol, sy’n hyrwyddo partneriaeth ledled ffiniau i roi lles y plentyn wrth ei graidd.’

[gorffen]

Nodiadau i Olygyddion

I gael mwy o wybodaeth neu am gyfweliadau, a fyddech cystal ag anfon e-bost at media@fostering.net neu ffonio 020 7620 6441. Ar gyfer astudiaethau achos lleol a gofalwyr maeth, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’ch gwasanaethau maethu lleol.

  1. Y Rhwydwaith Maethu yw prif elusen faethu’r Deyrnas Unedig, sy’n tynnu ynghyd pawb sy’n gysylltiedig â bywydau plant wedi’u maethu i wneud gofal maeth y gorau un y gall fod.
  2. Mae Maethu Lles yn rhaglen sydd wedi’i chyllido gan Lywodraeth Cymru ac fe gaiff ei chyflawni gan Y Rhwydwaith Maethu yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Mae’r rhaglen yn cyfuno egwyddorion addysgeg gymdeithasol a dysgu oddi wrth ein rhaglen ‘Pen, Calon, Dwylo’ gydag elfennau craidd ein gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar addysg oddi wrth Maethu Cyflawniad Llundain. Bydd y model hybrid hwn yn cyflawni rhaglen gyfannol, sydd wedi’i seilio ar ‘les’ ac sy’n gyson â naratif y Llywodraeth yng Nghymru.