Fostering Communities Programme Manager
Salary: £36,000 – £40,000pa Dependent on experience
Hours: 36
Location: This role is pan Wales, we offer hybrid working and we have an office in Cardiff.
We are looking for an experienced programme manager to lead Fostering Communities, our grant funded programme that brings together the views and experiences of children and young people, foster carers, and services.
About The Fostering Network
The Fostering Network (TFN) is the UK’s leading fostering charity. TFN provides membership services, including advice, guidance, and support to almost 59000 individual foster carers and more than 450 fostering service providers across the UK.
About the role
Fostering Communities is whole systems approach to supporting children looked after and their foster families. At its heart is a co-production model which aims to put lived experience at the centre of everything we do. There are 3 main strands to the programme: Research and Consultation, Co-production, and Implementation. This work is underpinned by a commitment to reframing care experience and creating a narrative that will support progressive and effective communication about the care system in Wales.
About You
We are looking for someone who is passionate about improving the lives, experiences and outcomes for children and young people. We need you to have experience of managing project, providing leadership, and working collaboratively with partner organisations. You should have experience of working within children’s services, and be able to demonstrate your understanding of issues relating to fostering. The successful candidate will also need to demonstrate the ability to work within a trauma informed framework, with a solution focused approach
This role is pan Wales, we offer hybrid working and we have an office in Cardiff. The successful candidate must be able to travel to the Cardiff office as needed as well as attend events and activities across Wales.
As an organisation we are committed to supporting flexible working. This post is advertised as full-time but we are open to applications from individuals who would like to work as part of a job-share arrangement. Please indicate on your application if you would like to be considered as part of a job share arrangement.
Interview location: In person at our Cardiff office
Rheolwr Rhaglen Cymunedau Maethu
Rydym yn chwilio am reolwr rhaglenni profiadol i arwain Cymunedau Maethu, ein rhaglen a ariannir drwy grant sy’n tynnu ynghyd farnau a phrofiadau plant a phobl ifanc, gofalwyr maeth, a gwasanaethau.
Ynglŷn â’r Rhwydwaith Maethu
Y Rhwydwaith Maethu (TFN) yw prif elusen faethu’r Deyrnas Unedig. Mae’r Rhwydwaith Maethu yn darparu gwasanaethau i aelodau, yn cynnwys cynghorion, arweiniad, a chymorth i bron 59,000 o ofalwyr maeth unigol ac i fwy na 450 o ddarparwyr gwasanaeth maethu ledled y Deyrnas Unedig.
Ynglŷn â’r Rôl
Mae Cymunedau Maethu yn ymagwedd systemau cyfan tuag at gynorthwyo plant sy’n derbyn gofal a’u teuluoedd maeth. Wrth ei graidd y mae model cydgynhyrchu sydd â’r nod o roi profiad o fyw yng nghanol popeth a wnawn. Mae yna dair prif gainc i’r rhaglen: Ymchwil ac Ymgynghori, Cydgynhyrchu, a Gweithredu. Tanategir y gwaith hwn gan ymrwymiad i ail-lunio profiad gofal a chreu naratif fydd yn cynorthwyo cyfathrebu blaengar ac effeithiol ynglŷn â’r system ofal yng Nghymru.
Amdanoch Chi
Rydym yn chwilio am rywun sy’n angerddol dros wella bywydau, profiadau a deilliannau i blant a phobl ifanc. Mae arnom angen ichi gael profiad o reoli prosiect, o ddarparu arweinyddiaeth ac o weithio’n gydweithredol â sefydliadau sy’n bartneriaid. Dylech fod â phrofiad o weithio o fewn gwasanaethau plant, a bod yn gallu dangos eich dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â maethu. Bydd ar yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd angen dangos y gallu i weithio o fewn fframwaith sy’n ystyriol o drawma, gydag ymagwedd sy’n canolbwyntio ar atebion.
Mae’r rôl hon drwy Gymru gyfan. Cynigiwn gyfle i weithio hybrid ac mae gennym swyddfa yng Nghaerdydd. Bydd yn rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus allu teithio i’r swyddfa yng Nghaerdydd, fel y bo angen, yn ogystal â mynychu digwyddiadau a gweithgareddau ledled Cymru.
Fel sefydliad, rydym wedi’n hymrwymo i gefnogi gweithio hyblyg. Hysbysebir y swydd hon fel amser llawn ond rydym yn agored i geisiadau gan unigolion a hoffai weithio fel rhan o drefniant rhannu swydd. Dynodwch ar eich cais, os gwelwch yn dda, a hoffech gael eich ystyried fel rhan o drefniant rhannu swydd.
Lleoliad y cyfweliad: Yn y cnawd yn ein swyddfa yng Nghaerdydd